English

Croeso i Jones Peckover

Sefydlwyd Jones Peckover ym 1880, ac mewn dros 140 o flynyddoedd, rydym ni wedi ennill enw da yn y maes eiddo ledled Cymru, Sir Gaer a Siroedd y Gororau.

Rydym ni’n gwmni amlddisgyblaethol sydd wedi hen ennill ei blwyf yn y DU, ac mae ein tîm profiadol a phroffesiynol yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr fel Syrfewyr Siartredig, Priswyr, Arwerthwyr, Rheolwyr Tir ac Ystadau ac Asiantau Ystadau.

Mae'r cwmni yn manteisio ar gyfuniad o wybodaeth leol helaeth a chysylltiadau gwledig cryf, gydag arferion gwaith modern a dulliau cyfathrebu cyfoes i ddarparu ystod eang o wasanaethau i gleientiaid.

Mae adrannau preswyl, amaethyddol, prisio ac iawndal arbenigol yn darparu gwasanaethau lleol i ardal ddaearyddol sy'n parhau i dyfu, ac rydym ni’n prysur sefydlu ein hunain fel un o brif asiantau’r ardal.

Dewislen