Hafan > Gwasanaethau Proffesiynol > Hawlio
Mae ein swyddfeydd ym Mhorthaethwy, Abergele a Dinbych yn arbenigo mewn Hawliadau Prynu Gorfodol a Hawliadau Iawndal ar gyfer hawliau tramwy, hawddfreintiau a cholledion dilynol.
Ffordd Osgoi Caernarfon a Bontnewydd yw’r cynllun Prynu Gorfodol mwyaf diweddar y mae rhai o'n Syrfewyr Siartredig wedi bod yn rhan ohono. O ran Hawliadau Iawndal, rydym ni’n gweithredu yn ddyddiol yn erbyn asiantaethau megis Dŵr Cymru, Scottish Power ac Openreach. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'r Awdurdod Caffael neu'r Ymgymerwr Statudol yn talu ein ffioedd a'n treuliau proffesiynol.
Cysylltwch â swyddfa Porthaethwy, swyddfa Abergele neu swyddfa Dinbych i gael rhagor o fanylion.