Hafan > Gwasanaethau Proffesiynol > Prisio
Rydym ni’n cynnig ystod lawn o wasanaethau prisio i gleientiaid ar gyfer eiddo masnachol, amaethyddol a phreswyl ar draws gogledd a chanolbarth Cymru a Swydd Gaer, Swydd Amwythig a Phenrhyn Cilgwri (Wirral Peninsula).
Ymhlith ein cleientiaid mae’r mwyafrif o fanciau'r Stryd Fawr, ynghyd â Sefydliadau Benthyca a Sefydliadau Ariannol gan gynnwys Cwmnïau Yswiriant a darparwyr tebyg, ystod eang o Gyfreithwyr, Cyfrifwyr, Datblygwyr a Phenseiri lleol a rhanbarthol. Rydym ni’n gweithio gyda nhw'n rheolaidd. Mae ein gwasanaethau hefyd yn cynnwys Sefydliadau Proffesiynol eraill gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a chwmnïau Cyhoeddus a Phreifat yn ogystal ag Unigolion Preifat.
Rydym ni’n cynnig ystod eang o wasanaethau gan gynnwys prisio at ddibenion diogelu benthyciadau, Trosglwyddiadau Busnes a Phrisio at ddibenion Masnachol, ochr yn ochr â Phrisio Cynllunio Trethi ac Ystadau, gweithdrefnau’r Llys ac at ddibenion adfer Yswiriant, yn ogystal â phrisio at ddibenion Gwerthu a Phrynu.
Mae ein Priswyr wedi eu cofrestru gyda Chynllun Cofrestru Priswyr RICS ac rydym ni’n cefnogi rhaglenni hyfforddi ar gyfer aelodau staff sydd newydd gymhwyso.