Cartref > Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

1. Cyflwyniad

Mae ein Hysbysiad Polisi Preifatrwydd yn esbonio sut a pham mae Jones Peckover yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Mae hefyd yn esbonio sut y byddwn yn storio'r wybodaeth hon a'i chadw'n ddiogel.

2. Pwy yw Jones Peckover?

Mae JONES PECKOVER yn ymwneud â:

  • GWERTHU A PHRYNU EIDDO
  • GOSOD EIDDO
  • ARWERTHIANNAU EIDDO
  • RHEOLI EIDDO AC YSTADAU
  • GWAITH AROLYGU A PHRISIO
  • ARWERTHIANNAU DA BYW

Mae gan Jones Peckover swyddfeydd yn:

  • 47 Stryd y Dyffryn Dinbych LL16 3AR (Prif Swyddfa)
  • 61 Stryd y Farchnad Abergele LL22 7AF
  • Tŷ Britannia, Four Crosses, Porthaethwy Ynys Môn LL59 5RW
  • Marchnad Da Byw, Y Roe, Llanelwy LL17 0LT

3. Pa Ddata Ydyn ni'n Ei Gasglu?

Yn ein gwaith bob dydd, mae Jones Peckover yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol a elwir yn ‘data’.

Mae’r data sy’n nodweddiadol wrth werthu, prynu a gosod yn cynnwys:

  • Eich enw, enwau blaenorol, cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhifau ffôn, y sawl sy’n ddibynnol arnoch, dyddiad geni, manylion cyfrif banc, gwybodaeth cyfeirnod credyd, manylion eich cyfreithiwr, cyflogaeth a manylion cyflogwr
  • Copïau o ddogfennau rydych chi'n eu darparu i brofi pwy ydych chi (at ddibenion cyfreithlon o ran gwyngalchu arian ac ariannu gwrthderfysgaeth)
  • Os ydych chi’n gwneud ymholiad trwy ein gwefan, byddwn ni hefyd yn cymryd y manylion cyswllt rydych chi'n eu nodi sy'n cynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost trwy ddefnyddio 'Mailchimp', system sy'n cofnodi eich manylion i ni mewn trefn er mwyn inni brosesu eich ymholiad.

4. Sut a Phryd y Cesglir y Data hwn?

  • Cesglir y data hwn gennych chi, neu gyda'ch caniatâd chi, gan eich priod neu berthynas agosaf, aelodau eraill o'r teulu, eich cyflogwyr neu gymdeithion busnes neu o ffynonellau dibynadwy eraill fel eich banc, cymdeithas adeiladu neu sefydliadau ariannol eraill, eich cyfreithwyr, asiantaethau'r llywodraeth a thir, asiantaethau cyfeirio credyd a chwmnïau yswiriant a thrwy gydsyniad i drydydd partïon ddatgelu gwybodaeth amdanoch chi i ni.
  • Cesglir yr wybodaeth ar lafar trwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb â chi, dros y ffôn, trwy e-bost, trwy lythyr a thrwy ddefnyddio ein ffurflenni safonol. Efallai y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth gan drydydd partïon fel banciau, cyfreithwyr neu asiantaethau cyfeirio credyd os ydych wedi cytuno iddynt ddatgelu data sydd ganddynt amdanoch chi.
  • Os byddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad neu gŵyn, byddwn yn cofnodi eich data er mwyn ymateb i chi.
  • Os byddwch yn mewngofnodi i'n gwefan ac yn ein e-bostio gydag ymholiad, byddwn yn storio'ch gwybodaeth i gysylltu â chi ymhellach, os ydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny
  • Rydym yn casglu data o ffynonellau sydd ar gael i'r cyhoedd (er enghraifft Y Gofrestrfa Tir) lle rydych chi wedi rhoi eich caniatâd i rannu gwybodaeth neu lle mae'r wybodaeth yn cael ei chyhoeddi yn unol â’r gyfraith
  • Os ydych yn defnyddio’r botymau ‘ychwanegu hwn’ neu ‘rhannu’ ar ein gwefan, fe gesglir eich gwybodaeth gan ddefnyddio cwcis. Mae'r cwcis hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu cynnwys ag eraill yn hawdd ar sawl rhwydwaith cymdeithasol fel Facebook neu Twitter. Mae opsiwn ar ein gwefan i ganiatau neu i wrthod y defnydd o gwcis.

5. Ar gyfer beth rydyn ni'n defnyddio'r data hwn?

Byddwn yn defnyddio ac yn storio'r data rydyn ni’n ei gasglu yn ein gwaith bob dydd:

  • Prynu neu werthu eiddo
  • Gosod neu rentu eiddo
  • Rheoli ystadau (gan ein Rheolwyr Ystadau.)

Bydd y gwaith uchod yn cynnwys:

  • Paratoi dogfennau, llythyrau a chytundebau
  • Anfonebu, prosesu taliadau, archwilio a chysoni ac atal trafodion twyllodrus. Rydym ni’n gwneud hyn ar sail ein buddiannau busnes cyfreithlon ac yn helpu i amddiffyn ein cwsmeriaid rhag twyll a thrafodion anawdurdodedig
  • Gwirio credyd yn ôl yr angen
  • i drefnu apwyntiadau gyda darpar brynwyr neu denantiaid i gael gweld eich eiddo neu gyda thrydydd partïon fel contractwyr
  • Gofynion cyfreithiol fel cydymffurfio â gweithdrefnau gwrth-wyngalchu arian a gwrthderfysgaeth, osgoi talu treth, risg weithredol a diogelwch gweithdrefnau busnes
  • Er mwyn ymateb i'ch ymholiadau ac unrhyw gwynion. Efallai y byddwn hefyd yn cadw cofnod o'r rhain i lywio unrhyw gyfathrebu yn y dyfodol ac i ddangos sut y gwnaethom gyfathrebu â chi drwy’r broses. Rydym ni’n gwneud hyn yn unol â gofynion cytundebol a chyfreithiol wrth ddarparu'r gwasanaeth gorau i chi a deall sut y gallwn wella'r gwasanaeth hwnnw
  • Gyda'ch caniatâd, er mwyn eich hysbysu dros e-bost, ffôn neu’n ysgrifenedig am wasanaethau perthnasol yr ydym yn eu cynnig neu am arwerthiannau neu eiddo sydd ar ddod neu ardaloedd i fyw ynddynt y gallech fod wedi ymholi amdanynt

6. Sylfeini Cyfreithlon yr ydym yn Prosesu'r Data arnynt

Mae'r gyfraith ar ddiogelu data yn caniatáu i ni gasglu a storio data personol am nifer o wahanol resymau

  • Rhwymedigaethau Cytundebol – lle rydych chi'n ymrwymo i drafodiad busnes gyda Jones Peckover
  • Rhwymedigaethau Cyfreithiol – lle mae'n ofynnol i ni gasglu a storio data personol yn unol â chyfreithiau fel rheoliadau Gwrth-Wyngalchu Arian.
  • Cydsyniad – Mewn sefyllfaoedd penodol, gallwn gasglu a phrosesu eich data gyda'ch caniatâd, er enghraifft, i’ch cynnwys ar ein rhestr bostio o eiddo
  • Budd Cyfreithlon – Mewn rhai sefyllfaoedd, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am eich data at ddibenion buddiannau cyfreithlon mewn ffordd sy’n rhesymol i’n busnes ac nad yw'n effeithio'n sylweddol ar eich hawliau, eich rhyddid na’ch diddordebau, er enghraifft, asesu risg, diwydrwydd dyladwy neu seiberddiogelwch ein systemau, neu ddiweddaru manylion cwsmeriaid, gosodiadau, gwerthiannau ac unrhyw gynhyrchion neu wasanaethau eraill a ddarperir gennym ni

7. Storio a Diogelu'ch Data

  • Bydd eich data yn cael ei storio naill ai'n electronig neu mewn ffeil copi caled diogel.
  • Byddwn yn cadw'r wybodaeth rydym ni wedi'i chasglu am gyfnod rhesymol o amser sy'n angenrheidiol i gyflawni'r gweithdrefnau a restrir uchod.
  • Yn gyffredinol, rydym ni’n dal gafael ar ein holl ffeiliau am 7 mlynedd, fodd bynnag, rydym ni’n cadw'r hawl i gadw gwybodaeth yn hirach os ydym yn teimlo fod hynny er budd cyfreithlon y busnes neu os oes rhwymedigaethau cytundebol neu gyfreithiol perthnasol.
  • Byddwn yn ymdrin â’ch data gyda'r gofal mwyaf ac yn cymryd pob cam priodol i'w amddiffyn.
  • Rydym yn monitro a diweddaru ein seiberddiogelwch yn rheolaidd er mwyn amddiffyn rhag gwendidau ac ymosodiadau posibl ac i gryfhau ein mesurau diogelwch ymhellach.

8. Gyda Phwy Ydyn ni'n Rhannu'ch Data?

  • Weithiau mae angen i ni rannu'ch data â thrydydd partïon dibynadwy eraill fel Banciau a Sefydliadau Ariannol eraill, Cyfreithwyr, asiantaethau Cyfeirio Credyd, partïon Eraill sy'n Ymgymryd ag Ymweliadau Eiddo neu Gontractwyr
  • Yn yr achosion hyn, dim ond yr wybodaeth sy’n angenrheidiol i gyflawni eu gwasanaethau penodol yr ydym yn ei darparu.
  • Dim ond at yr union ddibenion a nodir yn ein cytundeb gyda nhw y mae hawl iddynt ddefnyddio'ch data
  • Byddwn yn gweithio'n agos gyda nhw i sicrhau bod eich data'n cael ei ddiogelu.
  • Os byddwn yn rhoi'r gorau i ddefnyddio eu gwasanaethau, bydd unrhyw ddata sydd ganddynt yn cael ei ddileu.
  • Gyda'ch caniatâd chi, mae’n bosibl y byddwn yn trosglwyddo'ch data i eraill at ddibenion marchnata uniongyrchol.
  • At ddibenion rheoli twyll a seiberddiogelwch, mae’n bosibl y byddwn yn rhannu gwybodaeth am weithgarwch twyllodrus neu ddrwgdybiedig yn ein systemau a gallai hyn gynnwys rhannu data am unigolion â chyrff gorfodi cyfraith.
  • Mae hefyd yn bosibl y bydd gofyn i ni ddatgelu'ch data personol i'r heddlu, i Asiantaeth Droseddau Genedlaethol (NCA), neu gorff gorfodi, rheoleiddio neu Lywodraeth arall, yn eich gwlad enedigol neu rywle arall, ar gais i wneud hynny. Bydd preifatrwydd ein cleientiaid a'n cwsmeriaid yn cael ei ystyried os derbynnir cais o'r fath.

9. Eich Hawliau o ran Eich Data Personol sydd yn ein heiddo ni

Mae gennych yr hawl i:

  • Tryloywder – yr hawl i wybodaeth a thryloywder am y ffordd yr ydyn ni'n defnyddio'ch data personol – fel y manylir yn y polisi preifatrwydd uchod
  • Mynediad – at y data personol sydd gennym amdanoch chi – mae gennych chi’r hawl i ofyn am gopi o unrhyw wybodaeth sydd gan Jones Peckover amdanoch chi. Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i: Anne Hall, Jones Peckover, 47 Stryd y Dyffryn, Dinbych, Sir Ddinbych, LL163AR. Byddwn yn gofyn i chi ddangos prawf o'ch hunaniaeth cyn delio ag unrhyw gais i sicrhau ein bod yn darparu data i'r person sydd wedi gofyn amdano yn unig. Mae gennym un mis i ymateb i gais. Os yw’r cais yn amlwg yn ddi-angen neu'n gofyn gormod, mae gennym yr hawl i godi ffi resymol neu i wrthod ymateb
  • Cywiro – Cywiro data personol, er enghraifft pan fydd yn anghywir, yn anghyflawn neu'n hen
  • Dileu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu neu dynnu data personol mewn amgylchiadau penodol, er enghraifft lle rydych chi wedi tynnu eich caniatad i gadw data yn ôl
  • Cyfyngu – mae gennych yr hawl i ofyn i ni brosesu data mewn rhai amgylchiadau yn unig
  • Cludadwyedd Data – mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad at ddata personol ac i’w ailddefnyddio at eich dibenion eich hun ar draws y gwahanol wasanaethau
  • Gwrthwynebiad – mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu ar sail unrhyw fuddiannau cyfreithlon neu gyflawni tasg er budd y cyhoedd, neu i farchnata uniongyrchol gan gynnwys proffilio
  • Proffilio – mae gennych yr hawl i wrthwynebu proffilio ar sail eich data personol
Dewislen