Hafan > Gwasanaethau Proffesiynol > Rheoli Ystadau Gwledig

Rheoli Ystadau Gwledig

Rydym ni’n gweithio gydag amrywiaeth o gleientiaid ledled gogledd a chanolbarth Cymru, yn ogystal â Siroedd y Gororau. Rydym ni’n gweithio gydag ystadau tir traddodiadol, unigolion preifat, sefydliadau mawr, ymddiriedolaethau ac elusennau. Mae ystod eang ein cleientiaid wedi rhoi cyfoeth o brofiad i ni.

Mae gennym brofiad helaeth wrth ymdrin â thir amaethyddol, eiddo preswyl ac eiddo masnachol. Rydym ni’n darparu gwasanaeth proffesiynol a chyfrinachol a byddwn yn delio â’ch holl ofynion rheoli eiddo gwledig. Mae’n gwasanaeth wedi'i deilwra i chi, a gall amrywio o reolaeth lawn dros y portffolio neu ar sail gosod yn unig pan ddaw eiddo'n wag.

Tîr amaethyddol yng Nghymru
Dewislen